Mae Awdurdod Iechyd Arbennig, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (“IGDC”), wedi cael ei sefydlu o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Bydd swyddogaethau IGDC yn ymwneud â darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol a chefnogi gwella systemau o’r fath. Hyd yma, mae nifer o’r swyddogaethau hyn wedi eu harfer gan Wasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (“GGGC”). Mae GGGC yn rhan o’r cydwasanaethau a letyir gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre (“Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff (erthygl 3), eiddo (erthygl 4), hawliau ac atebolrwyddau (erthygl 5) o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i IGDC.
Mae erthygl 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo data, cofnodion a gwybodaeth.
Mae erthygl 7 yn gwneud darpariaeth ar gyfer parhad pethau a wneir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre neu mewn perthynas â hi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.