Trosglwyddo hawliau ac atebolrwyddau5.

(1)

Mae unrhyw hawliau ac atebolrwyddau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n bodoli yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sy’n ymwneud ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wrth arfer swyddogaethau GGGC, neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, i’w trosglwyddo ar y dyddiad trosglwyddo i IGDC.

(2)

Mae unrhyw atebolrwyddau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n bodoli yn union cyn y dyddiad trosglwyddo ac sy’n ymwneud ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre wrth arfer swyddogaethau GGGC, neu mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, yn orfodadawy yn erbyn IGDC.