4.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i eiddo a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—
(a)a nodir yn yr Atodlen;
(b)a ddefnyddir neu a ddelir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre—
(i)ar gyfer cyflawni swyddogaethau GGGC, neu
(ii)mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau GGGC.
(2) Mae unrhyw eiddo y mae paragraff (1) yn gymwys iddo i’w drosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i IGDC.
(3) Mae unrhyw hawliau neu atebolrwyddau sydd gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre mewn perthynas ag unrhyw eiddo y mae paragraff (1) yn gymwys iddo i’w trosglwyddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i IGDC.
(4) Mae unrhyw eiddo y mae paragraff (1) yn gymwys iddo sy’n dir neu’n adeiladau yn cael ei drosglwyddo yn ddarostyngedig i, a chyda budd, y canlynol—
(a)unrhyw lesoedd, tenantiaethau a thrwyddedau presennol ac unrhyw hawliau sydd gan feddianwyr a’u holynwyr;
(b)unrhyw fuddiant arall yn yr eiddo, ac unrhyw fater sy’n effeithio arno.
(5) Ym mharagraff (4), mae trosglwyddo “eiddo” yn cynnwys trosglwyddo cynnwys yr eiddo, gan gynnwys unrhyw eitem neu eiddo o ba ddisgrifiad bynnag—
(a)sy’n eiddo Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, a
(b)sy’n bresennol yn neu ar yr eiddo ar y dyddiad trosglwyddo,
gan gynnwys unrhyw gerbyd neu eiddo symudol sydd fel arfer yn cael ei gadw ar y tir hwnnw neu yn yr adeiladau hynny pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.