3.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i unrhyw berson—
(a)sydd wedi ei gyflogi gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn union cyn y dyddiad trosglwyddo mewn cysylltiad â swyddogaethau GGGC, a
(b)sydd wedi cael ei hysbysu’n ysgrifenedig gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre cyn y dyddiad trosglwyddo ei fod i’w drosglwyddo i IGDC.
(2) Mae contract cyflogaeth unrhyw berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, ar y dyddiad trosglwyddo, i’w drosglwyddo i IGDC.
(3) O ran contract cyflogaeth person y mae ei gyflogaeth wedi ei throsglwyddo i IGDC o dan baragraff (2)—
(a)nid yw’r trosglwyddiad yn ei derfynu, a
(b)mae’n cael effaith o’r dyddiad trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person hwnnw ac IGDC.
(4) Heb ragfarnu paragraff (3)—
(a)mae holl hawliau, pwerau, dyletswyddau ac atebolrwyddau Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o dan gontract cyflogaeth unrhyw berson y trosglwyddwyd ei gyflogaeth i IGDC ar y dyddiad trosglwyddo o dan baragraff (2), neu mewn cysylltiad â’r contract hwnnw, i’w trosglwyddo i IGDC, a
(b)bernir bod unrhyw weithred neu anweithred cyn y dyddiad trosglwyddo gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre neu mewn perthynas â hi, mewn cysylltiad â’r person hwnnw neu gontract cyflogaeth y person hwnnw, yn weithred neu anweithred gan IGDC neu mewn perthynas ag ef.
(5) Nid yw paragraffau (2) i (4) yn cael effaith i drosglwyddo contract cyflogaeth person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo, neu unrhyw hawliau, pwerau, dyletswyddau ac atebolrwyddau o dan y contract hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef, os yw’r person hwnnw, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn rhoi gwybod i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ei fod yn gwrthwynebu dod yn gyflogedig gan IGDC.
(6) Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo wedi gwrthwynebu trosglwyddo ei gontract cyflogaeth i IGDC fel y’i disgrifir ym mharagraff (5), mae’r trosglwyddiad yn gweithredu er mwyn terfynu contract cyflogaeth y person hwnnw ag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid yw person y mae ei gontract cyflogaeth yn cael ei derfynu yn unol â pharagraff (6) i’w drin, at unrhyw ddiben, fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.
(8) Pan fo’r trosglwyddiad yn golygu, neu pan fyddai’n golygu, newid sylweddol yn yr amodau gwaith gan arwain at niwed sylweddol i berson y mae ei gyflogaeth yn cael ei throsglwyddo neu y byddai ei gyflogaeth wedi cael ei throsglwyddo o dan baragraff (2), caiff y person hwnnw drin y contract cyflogaeth fel pe bai wedi cael ei derfynu, ac mae’r person hwnnw i’w drin at unrhyw ddiben fel pe bai wedi cael ei ddiswyddo gan ei gyflogwr.
(9) Nid yw unrhyw iawndal i fod yn daladwy gan gyflogwr o ganlyniad i ddiswyddo sy’n dod o fewn paragraff (8) mewn cysylltiad ag unrhyw fethiant gan y cyflogwr i dalu cyflog i berson mewn cysylltiad â chyfnod rhybudd y mae’r person wedi methu â’i weithio.
(10) Nid yw paragraffau (2), (3), a (5) i (8) yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan berson sy’n codi ar wahân i’r erthygl hon i derfynu contract cyflogaeth y person hwnnw heb rybudd wrth dderbyn tor contract ymwrthodol gan y cyflogwr.
(11) Mae cofnodion Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre sy’n ymwneud â chyflogaeth y personau hynny y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt ac y mae eu contractau cyflogaeth i’w trosglwyddo i IGDC yn unol â’r erthygl hon i’w trosglwyddo i IGDC ar y dyddiad trosglwyddo.