Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn—
adran 28 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: pwerau i wneud darpariaeth atodol);
adran 30(3) (amod cymhwystra mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned a phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â’r amod hwnnw);
adran 35 (pŵer i ddiwygio neu addasu Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf);
adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
adran 46(3), (4) ac (8) i (10) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol);
adran 47(8) (pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio adran 47 o’r Ddeddf mewn perthynas â mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol);
adran 59 (cynnwys canllawiau o dan adran 38 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”), a dyletswydd i roi sylw iddynt);
adran 161(1) (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”)).
Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—
adran 163 (y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn penodi ei brif weithredwr);
adran 164 (cyfarwyddydau o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013).
Mae erthygl 4 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar 1 Tachwedd 2021.
Mae erthygl 5 yn dwyn adran 52 (adroddiadau blynyddol gan gynghorau cymuned) o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.
Mae erthygl 6 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Mai 2022—
adrannau 30 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym), 31 i 34, a 36 a 37 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);
Pennod 2 o Ran 3 (cyfranogiad y cyhoedd pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadau);
adran 45 (dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfansoddiad ac arweiniad i’r cyfansoddiad);
adran 46 (darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
adran 48 (cyfranogi yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned);
adran 54 (prif weithredwyr);
adran 56 (diwygiadau i Fesur 2011 yn ymwneud ag ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru);
adran 57 (penodi cynorthwywyr gweithrediaeth);
adran 58 (rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);
adran 62 (dyletswyddau ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad);
adran 63 (dyletswydd ar bwyllgor safonau i wneud adroddiad blynyddol);
adrannau 65 a 66 (pwyllgorau trosolwg a chraffu);
adran 67 (cynlluniau hyfforddi cynghorau cymuned);
adran 161 (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau pellach i Fesur 2011 a diwygiadau i Ddeddf Lleoliaeth 2011) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
adran 162 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod cymunedol);
Rhan 2 o Atodlen 3 (diwygiadau mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);
Atodlen 5 (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phrif weithredwyr);
Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol etc. mewn perthynas â chynorthwywyr gweithrediaethau awdurdodau lleol) ac eithrio paragraff 6(5);
Atodlen 7 (rhannu swyddi gan arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);
Atodlen 13 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfodydd cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).
Mae erthygl 7 yn arbed adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o’r Ddeddf honno hyd nes y bo’r peth hwnnw wedi ei gwblhau neu’r cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.