Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Mae’r diwygiadau hyn yn ofynnol o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).
Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniadau perthnasol yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2003. Yn benodol, mae Deddf 2018 wedi ei diffinio, yn ogystal â’r termau “anghenion dysgu ychwanegol” a “darpariaeth ddysgu ychwanegol”. Cyflwynwyd y ddau derm hyn yn Neddf 2018 ac mae’r diwygiadau i Reoliadau 2003 yn diweddaru’r derminoleg. Mae rheoliad 3 hefyd yn mewnosod diffiniadau o “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” o dan adran 312 o Ddeddf Addysg 1996, er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hen system a’r system newydd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Atodlen i Reoliadau 2003. Mae paragraff 3 o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i gwmpasu “anghenion addysgol arbennig” yn ogystal ag “anghenion dysgu ychwanegol”. Mae paragraff 3(5) wedi ei hepgor. Mae paragraff 3(6) wedi ei ddisodli i ddiweddaru’r derminoleg ac ychwanegu’r gofyniad am restr o’r math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r ysgol yn ei gwneud. Yn ychwanegol, mae paragraff 5(1)(a) o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i ddiweddaru’r cyfeiriad at ddatganiadau anghenion addysgol arbennig i gynnwys cynlluniau datblygu unigol, ac i ddileu’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a fyddai’n nodi pwy yw disgyblion unigol. Mae paragraff 5(2) wedi ei ddiwygio fel ei fod yn cyfeirio at anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal ag at anghenion addysgol arbennig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yng ngoleuni’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.