Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
(2)
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 20032.
Diwygio rheoliad 2 (dehongli)3.
“mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996;”,
“mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 2 o Ddeddf 2018;”,
“mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10 o Ddeddf 2018;”,
“mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational provision” gan adran 312 o Ddeddf 1996;”,
“mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 3 o Ddeddf 2018;”,
“ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;”.
Diwygio’r Atodlen4.
Yn yr Atodlen—
(a)
hepgorer paragraff 3(5).
(b)
“(6)
Y math neu’r mathau o—
(a)
darpariaeth ddysgu ychwanegol a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (os oes un), a
(b)
darpariaeth addysgol arbennig a wneir gan yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (os oes un).”
(c)
“(1)
Nifer y disgyblion yn yr ysgol—
(a)
y mae’r ysgol neu awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol mewn perthynas â hwy, a
(b)
y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â hwy o dan adran 324 o Ddeddf 1996.”
(d)
“(2)
Nifer y disgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (1), ond y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig.”
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau 2003”). Mae’r diwygiadau hyn yn ofynnol o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).
Mae rheoliad 3 yn mewnosod diffiniadau perthnasol yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau 2003. Yn benodol, mae Deddf 2018 wedi ei diffinio, yn ogystal â’r termau “anghenion dysgu ychwanegol” a “darpariaeth ddysgu ychwanegol”. Cyflwynwyd y ddau derm hyn yn Neddf 2018 ac mae’r diwygiadau i Reoliadau 2003 yn diweddaru’r derminoleg. Mae rheoliad 3 hefyd yn mewnosod diffiniadau o “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” o dan adran 312 o Ddeddf Addysg 1996, er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hen system a’r system newydd.
Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Atodlen i Reoliadau 2003. Mae paragraff 3 o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i gwmpasu “anghenion addysgol arbennig” yn ogystal ag “anghenion dysgu ychwanegol”. Mae paragraff 3(5) wedi ei hepgor. Mae paragraff 3(6) wedi ei ddisodli i ddiweddaru’r derminoleg ac ychwanegu’r gofyniad am restr o’r math o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae’r ysgol yn ei gwneud. Yn ychwanegol, mae paragraff 5(1)(a) o’r Atodlen wedi ei ddiwygio i ddiweddaru’r cyfeiriad at ddatganiadau anghenion addysgol arbennig i gynnwys cynlluniau datblygu unigol, ac i ddileu’r gofyniad i ddarparu gwybodaeth a fyddai’n nodi pwy yw disgyblion unigol. Mae paragraff 5(2) wedi ei ddiwygio fel ei fod yn cyfeirio at anghenion dysgu ychwanegol yn ogystal ag at anghenion addysgol arbennig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol yng ngoleuni’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.