2021 Rhif 216 (Cy. 53)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 25B(3)(c) a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 203(6) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru2 ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lefelau Staff Nyrsio (Estyn Sefyllfaoedd) (Cymru) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Hydref 2021.

Sefyllfaoedd penodedig ar gyfer gwasanaethau nyrsio2.

Mae wardiau cleifion mewnol pediatrig wedi eu pennu yn sefyllfa y mae’r dyletswyddau o dan adran 25B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gymwys iddi.

Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan adran 25B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mae Bwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau nyrsio mewn perthynas â’r lleoliadau clinigol hynny a bennir yn is-adran 25B(3), sef wardiau meddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion a wardiau llawfeddygol acíwt i gleifion mewnol sy’n oedolion, o dan ddyletswydd i gyfrifo lefelau staff nyrsio a chymryd camau i’w cynnal, ac i hysbysu cleifion am y lefelau staff nyrsio hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn estyn y sefyllfaoedd y mae’r dyletswyddau o dan adran 25B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gymwys iddynt i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yng Nghymru. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.