Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio paragraffau (8) ac (11)(b) o reoliad 2, i rym ar 27 Chwefror 2021.
(3)
Daw paragraffau (8) ac (11)(b) o reoliad 2 i rym ar 1 Mawrth 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202.
(1)
(2)
Hepgorer rheoliadau 11A, 11AA ac 11B.
(3)
Yn rheoliad 12, yn lle “, 9(2), 11A(2) neu 11AA(2)” rhodder “neu 9(2)”.
(4)
Yn rheoliad 14(2), hepgorer is-baragraff (aa).
(5)
Yn rheoliad 22(4)(a), yn lle “, 9(2), 11A(2) neu 11AA(2)” rhodder “neu 9(2)”.
(6)
Yn rheoliad 30, yn lle “, 9(2), 11A(2) neu 11AA(2)” rhodder “neu 9(2)”.
(7)
Yn rheoliad 40—
(a)
ym mharagraff (1)—
(i)
yn is-baragraff (a), hepgorer “, 11A(2), 11AA(2)”;
(ii)
yn is-baragraff (b), yn lle “, 9(3), 11A(3) neu 11AA(3)” rhodder “neu 9(3)”;
(b)
ym mharagraff (2)(a), yn lle “, 9(3), 11A(3) neu 11AA(3)” rhodder “neu 9(3)”.
(8)
(9)
Ym mharagraff 3 o Atodlen 4—
(a)
yn is-baragraffau (1) a (4), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “un oedolyn” rhodder “anghenion llesiant”;
(b)
“(8)
Yn y paragraff hwn, ystyr “aelwyd anghenion llesiant” yw—
(a)
aelwyd un oedolyn;
(b)
aelwyd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion.”
(10)
Yn lle’r pennawd i Atodlen 5 rhodder “Ardaloedd ac addasiadau dros dro”.
(11)
Ym mharagraff 2 o Atodlen 5—
(a)
“(c)
mae paragraff 3(8) o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (b)—“(c)
aelwyd ag—
(i)
2 neu ragor o oedolion,
(ii)
1 neu ragor o blant o dan 1 oed, a
(iii)
unrhyw nifer o blant eraill.”
(b)
“(d)
mae paragraff 11 o Atodlen 4 i’w ddarllen fel pe bai—
(i)
wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (1)—“(1A)
A chaiff mangre a gymeradwywyd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni priodas arall yn y fangre.”
(ii)
wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (4)—“(5)
Yn y paragraff hwn, ystyr “mangre a gymeradwywyd” yw mangre sydd wedi ei chymeradwyo yn unol â Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 20054—(a)
fel mangre y caniateir i briodasau gael eu gweinyddu ynddi yn unol ag adran 26(1)(bb) o Ddeddf Priodas 19495, neu(b)
at ddibenion adran 6(3A)(a) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 20046.”
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”). Mae’r diwygiadau—
yn caniatáu i aelwyd mewn ardal Lefel Rhybudd 4 sydd ag 1 neu ragor o blant a dim oedolion (er enghraifft, person sy’n 17 mlwydd oed sy’n byw ar ei ben ei hun) ffurfio aelwyd estynedig ag aelwyd arall;
yn gwneud addasiadau dros dro i’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n gymwys i ardal Lefel Rhybudd 4 o dan Atodlen 4 i’r prif Reoliadau, sydd—
yn caniatáu i aelwyd sydd ag 1 neu ragor o blant o dan 1 oed ffurfio aelwyd estynedig ag aelwyd arall;
yn caniatáu i fangreoedd lle y caiff seremonïau priodasau sifil a ffurfiad partneriaethau sifil ddigwydd agor i’r cyhoedd i’r graddau y mae hyn yn ofynnol at ddibenion gweinyddu priodas, ffurfio partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall yn y fangre;
yn gwneud mân newidiadau a newidiadau canlyniadol, gan gynnwys dirymu darpariaethau sydd wedi eu disbyddu a diweddaru croesgyfeiriad at reoliadau sydd i’w dirymu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.