NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Pwyllgorau Rheoli etc.) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”). Mae angen y diwygiad o ganlyniad i weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“Deddf 2018”).

Yn benodol, mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 22 o Reoliadau 2014 (dirprwyo swyddogaethau) i ddarparu bod rhaid i awdurdod lleol ddirprwyo’r swyddogaethau penodedig i bwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion (“UCD”).

Y swyddogaethau penodedig yw swyddogaethau’r corff llywodraethu o dan Ddeddf 2018 sydd, yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”), yn swyddogaethau sydd gan yr awdurdod lleol mewn perthynas ag UCD.

Mae paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 yn darparu y caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy’n cynnal UCD sefydlu pwyllgor rheoli ar gyfer yr UCD. Caiff y rheoliadau hefyd wneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i bwyllgor gyflawni unrhyw swyddogaethau sydd gan yr awdurdod mewn cysylltiad ag UCD a ddirprwyir iddo gan yr awdurdod, yn unol â rheoliadau.

Y bwriad yw i bwyllgor rheoli gael yr un swyddogaethau o dan Ddeddf 2018 mewn perthynas ag UCD ag sydd gan gorff llywodraethu mewn perthynas ag ysgol a gynhelir. Er mwyn sicrhau mai dim ond y swyddogaethau hyn a gwmpesir gan y gofyniad i ddirprwyo, mae’r diwygiad i reoliad 22 a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cyfeirio at swyddogaethau cyrff llywodraethu. Mae hyn yn sicrhau nad oes unrhyw swyddogaeth sydd wedi ei gosod yn uniongyrchol ar yr awdurdod lleol gan Ddeddf 2018 yn cael ei dirprwyo i bwyllgor rheoli.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.