Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 20212.
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Mawrth 2021, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—
(a)
adran 4 (ysmygu);
(b)
adran 5 (y drosedd o ysmygu mewn mangre ddi-fwg neu gerbyd di-fwg);
(c)
adran 6 (y drosedd o fethu ag atal ysmygu mewn mangre ddi-fwg);
(d)
adran 7 (gweithleoedd);
(e)
adran 8 (mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd);
(f)
adran 9 (lleoliadau gofal awyr agored i blant);
(g)
adran 10 (tir ysgolion);
(h)
adran 11 (tir ysbytai);
(i)
adran 12 (meysydd chwarae cyhoeddus);
(j)
adran 13 (mangreoedd di-fwg ychwanegol);
(k)
adran 14 (darpariaeth bellach ynghylch mangreoedd di-fwg ychwanegol: anheddau);
(l)
adran 17 (arwyddion: mangreoedd di-fwg);
(m)
adran 18 (awdurdodau gorfodi);
(n)
adran 19 (pwerau mynediad);
(o)
adran 20 (gwarant i fynd i mewn i annedd);
(p)
adran 21 (gwarant i fynd i mewn i fangreoedd eraill);
(q)
adran 22 (darpariaeth atodol ynghylch pwerau mynediad);
(r)
adran 23 (pwerau arolygu etc.);
(s)
adran 24 (rhwystro etc. swyddogion);
(t)
adran 25 (eiddo a gedwir: apelau);
(u)
adran 26 (eiddo a gyfeddir: digolledu);
(v)
adran 27 (hysbysiadau cosb benodedig);
(w)
adran 28 (dehongli’r Bennod hon);
(x)
adran 29 (diwygiadau canlyniadol);
(y)
Atodlen 1 (cosbau penodedig); a
(z)
Atodlen 2 (ysmygu: diwygiadau canlyniadol).