Rheoliad 2
1. Asesiad o ddigonolrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth sy’n cynnwys unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth i ddiwallu’r anghenion a nodir yn yr asesiad poblogaeth diweddaraf.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
2. Asesiad o ansawdd cyffredinol y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan wasanaethau rheoleiddiedig wrth ddiwallu anghenion a chyflawni canlyniadau personol pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a’r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
3. Asesiad o’r tueddiadau cyfredol neu ddatblygol yn y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth a’u heffaith ar ddigonolrwydd, ansawdd neu sefydlogrwydd y gwasanaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
4. Asesiad o unrhyw heriau sylweddol ar hyn o bryd neu yn y dyfodol i ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Asesiad o effaith comisiynu a chyllido ar ddigonolrwydd, ansawdd a sefydlogrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig sy’n darparu gofal a chymorth, gan gynnwys dulliau rhanbarthol a defnyddio cronfeydd cyfun.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)