Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan bwerau a roddir i Weinidogion Cymru gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) mewn perthynas ag adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol.
Mae adran 144B o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas ag adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad.
Mae adran 166(1)(b) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud trefniadau partneriaeth penodedig yn ofynnol rhwng un neu ragor o awdurdodau lleol ac un neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol. Mae adran 166(4)(a) yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol gyflawni swyddogaethau a bennir at ddibenion adran 166(2), megis swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, at ddibenion trefniadau partneriaeth. Mae adran 168 o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i fwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 168(1)(c) gael ei sefydlu gan un neu ragor o awdurdodau lleol ac un neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol. O dan adran 168(2)(c), caiff y rheoliadau hynny wneud darpariaeth ynghylch amcanion a swyddogaethau’r bwrdd partneriaeth.
Mae Rhan 1 yn ymdrin â chychwyn a diffiniadau.
Mae Rhan 2 yn ymdrin â pha faterion pellach sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig y mae’n ofynnol eu cynnwys yn yr adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad; y cyfnod amser y mae’r adroddiad yn ystyried digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth; y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi’r adroddiad a ffurf yr adroddiad.
Mae rheoliad 2 wedi ei wneud o dan adran 144B(2)(a)(iii) ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth iddynt lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad leol, gynnwys asesiad o’r materion eraill hynny sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o wasanaethau rheoleiddiedig yn ardal yr awdurdod lleol, a bennir yn yr Atodlen ac sy’n cynnwys digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth, ansawdd cyffredinol gofal a chymorth, tueddiadau cyfredol neu ddatblygol gofal a chymorth, unrhyw heriau sylweddol ac effaith comisiynu a chyllido.
Mae rheoliad 3 wedi ei wneud o dan adran 144B(2)(a)(i) ac mae’n darparu ar gyfer cyfnod asesu digonolrwydd y ddarpariaeth o ofal a chymorth.
Mae rheoliad 4 wedi ei wneud o dan adran 144B(1) ac mae’n darparu ar gyfer yr adegau y mae rhaid i awdurdodau lleol lunio a chyhoeddi eu hadroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad.
Mae rheoliad 5 wedi ei wneud o dan adran 144B(3) ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad fod mewn fformat electronig.
Mae Rhan 3 wedi ei gwneud o dan adrannau 166(1)(b) a (4)(a) a 168 ac mae’n diwygio Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015. Mae’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ymrwymo i drefniant partneriaeth ar gyfer cyflawni swyddogaethau’r awdurdodau lleol o dan adran 144B.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn.