NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn pennu 25 Chwefror 2021 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer Gwariant Ymgyrch Pleidiau Gwleidyddol (Etholiadau’r Senedd) 2020 i rym (“y Cod”).

Lluniodd y Comisiwn Etholiadol y Cod yn unol â pharagraff 3(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (“Deddf 2000”) ac mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r Cod drafft, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Rhagfyr 2020.

Mae’r Cod wedi ei ddyroddi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(a) o Atodlen 8 i Ddeddf 2000 a chaiff y Cod ei gyhoeddi gan y Comisiwn Etholiadol o dan baragraff 7 o Atodlen 8 i Ddeddf 2000.