Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021
Enwi a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.
(2)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 20012.
(1)
(2)
(3)
Yn rheoliad 56(3B)—
(a)
yn lle “paragraph 4(2)” rhodder “paragraphs 4(2), 6(7) or 6(8)”; a
(b)
dileer “, or an application under paragraph 6(8) of that Schedule made by virtue of that application,”.
F1(4)
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phleidleisio drwy ddirprwy mewn is-etholiadau llywodraeth leol penodol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, er mwyn darparu sail ychwanegol i geiswyr wneud cais am bleidleisiau drwy ddirprwyon brys, neu newid eu dirprwy enwebedig, yn yr is-etholiadau hyn. Mae’r sail ychwanegol hon yn ymwneud â phersonau nad ydynt yn gallu mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol o ganlyniad i ddilyn deddfwriaeth berthnasol, canllawiau perthnasol neu gyngor meddygol perthnasol mewn perthynas â’r pandemig COVID-19.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.