Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 193 (Cy. 44)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Gwnaed

24 Chwefror 2021

Yn dod i rym

25 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(3), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

Diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001

2.—(1Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ddechrau rheoliad 56(2)(5) mewnosoder “Subject to paragraph (3B),”.

(3Yn rheoliad 56(3B)—

(a)yn lle “paragraph 4(2)” rhodder “paragraphs 4(2), 6(7) or 6(8)”; a

(b)dileer “, or an application under paragraph 6(8) of that Schedule made by virtue of that application,”.

(4Ar ddiwedd rheoliad 56(3C), ar ôl “the Local Government (Coronavirus) (Postponement of Elections) (Wales) Regulations 2020” mewnosoder “or will take place between 25 February 2021 and 4 November 2021”.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

24 Chwefror 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phleidleisio drwy ddirprwy mewn is-etholiadau llywodraeth leol penodol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, er mwyn darparu sail ychwanegol i geiswyr wneud cais am bleidleisiau drwy ddirprwyon brys, neu newid eu dirprwy enwebedig, yn yr is-etholiadau hyn. Mae’r sail ychwanegol hon yn ymwneud â phersonau nad ydynt yn gallu mynd i orsaf bleidleisio yn bersonol o ganlyniad i ddilyn deddfwriaeth berthnasol, canllawiau perthnasol neu gyngor meddygol perthnasol mewn perthynas â’r pandemig COVID-19.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2000 p. 2; gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 4 gan adran 14(2)(a) ac (8) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22). Am y diffiniad o “prescribed” gweler adran 202(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) i’w darllen ynghyd â pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) ac Atodlen 1 iddo.

(3)

1983 p. 2; mae paragraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 yn darparu y bydd Atodlen 4 yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

(5)

Gwnaed diwygiadau perthnasol i reoliad 56 gan O.S. 2006/752, O.S. 2006/2910, O.S. 2013/3198 ac O.S. 2020/1399 (Cy. 310).