Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 193 (Cy. 44)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Gwnaed

24 Chwefror 2021

Yn dod i rym

25 Chwefror 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 4(2)(c) a 6(7) ac (8) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 201(2) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(3), gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

(1)

2000 p. 2; gwnaed diwygiadau perthnasol i Atodlen 4 gan adran 14(2)(a) ac (8) o Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22). Am y diffiniad o “prescribed” gweler adran 202(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2) i’w darllen ynghyd â pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion Cymru gan erthygl 45 o Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018 (O.S. 2018/644) ac Atodlen 1 iddo.

(3)

1983 p. 2; mae paragraff 1(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 yn darparu y bydd Atodlen 4 yn cael effaith fel pe bai wedi ei chynnwys yn Rhan 1 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.