Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Milheintiau 1989 (O.S. 1989/285) (“y Gorchymyn”) at y dibenion a ganlyn—
i ychwanegu coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) i’r rhestr o organeddau a ddynodir at ddibenion adran 29 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (organeddau y mae darpariaethau a benodir o’r Ddeddf honno yn gymwys iddynt). Mae dynodi SARS-CoV-2 yn gymwys mewn perthynas ag achosion lle mae’r organedd yn cael ei gario mewn mamaliaid (erthygl 3);
i ychwanegu’r manylion sydd yn rhaid adrodd yn eu cylch mewn perthynas â SARS-CoV-2 (erthygl 5);
i ragnodi’r manylion sydd i’w cynnwys mewn adroddiad sydd angen ei lofnodi mewn perthynas ag Echinococcus multilocularis o dan adran 8A o’r Gorchymyn (erthygl 6).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.