(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r seithfed Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”). Mae’n dwyn i rym adran 56(1) o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n mewnosod adran 144B yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), ac eithrio nad yw adran 144B(2)(a)(ii) wedi ei mewnosod. Mae hefyd yn dwyn i rym adran 6 o’r Ddeddf at yr holl ddibenion sy’n weddill, a pharagraff 30 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.