(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio i wneud addasiadau dros dro i’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n gymwys i ardal Lefel Rhybudd 4 o dan Atodlen 4 i’r prif Reoliadau. Mae’r darpariaethau dros dro yn caniatáu i hyd at 4 o bobl o 2 aelwyd wahanol wneud ymarfer corff gyda’i gilydd yn yr awyr agored (er bod rhaid o hyd i’r ymarfer corff ddechrau o’r man lle y mae’r bobl yn byw a gorffen yno).
Er mwyn darparu ar gyfer addasiadau dros dro o’r fath, mae diwygiad cyfatebol wedi ei wneud i reoliad 4(8). Effaith hyn yw bod y cyfyngiadau a’r gofynion ar gyfer pob lefel rhybudd (fel y’u nodir yn Atodlenni 1 i 4) yn gymwys i ardal yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau dros dro a bennir mewn perthynas â’r ardal honno yn Atodlen 5. Felly yn ogystal ag edrych ar Atodlen 5 i benderfynu pa un o Atodlenni 1 i 4 sy’n gymwys i ardal, rhaid ichi hefyd ystyried sut y gall yr Atodlen berthnasol fod wedi ei haddasu gan Atodlen 5.
Mae Rhan 3A o Atodlen 4 i’r prif Reoliadau yn gwahardd perchnogion ysgolion yng Nghymru mewn ardal Lefel Rhybudd 4 rhag caniatáu i ddisgyblion fynd i fangreoedd ysgolion. Mae hefyd yn gwahardd perchnogion sefydliadau addysg bellach rhag caniatáu i fyfyrwyr fynd i’r sefydliadau hynny. Mae hyn yn ddarostyngedig i eithriadau penodol yn y ddau achos.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 3A o Atodlen 4 i’r prif Reoliadau fel nad yw’r gwaharddiad ar berchnogion ysgolion yn gymwys ond mewn perthynas â disgyblion ym mlwyddyn 3 neu’n uwch. Mae hefyd yn diwygio’r Rhan honno fel nad yw’r gwaharddiad ar berchnogion sefydliadau addysg bellach yn gymwys os yw’r myfyriwr yn ymgymryd â chwrs mewn peirianneg, adeiladu, lletygarwch, arlwyo neu amaethyddiaeth a bod angen iddo fynd i’r sefydliad i gwblhau ei gwrs.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau pellach i Atodlen 4 i’r prif Reoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.