Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/595 (Cy. 136)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”) yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru (“gweithredwyr”) i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodol i deithwyr.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd er mwyn diweddaru’r wybodaeth y mae’n ofynnol i weithredwyr ei darparu i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru. Mae’r wybodaeth wedi ei diweddaru y mae’n ofynnol i weithredwyr ei darparu yn cynnwys gwybodaeth am y gofyniad o dan reoliad 6B o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), i drefnu profion ar ôl cyrraedd (rheoliad 2).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/48 (Cy. 11)) (“y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) o ganlyniad i ddiwygiadau a wnaed i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ar 15 Chwefror 2021.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr er mwyn—
ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr sicrhau bod teithwyr sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin ar wasanaethau teithwyr rhyngwladol wedi gwneud trefniadau ar gyfer profion ar ôl cyrraedd yn unol â rheoliad 6B o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;
ei gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau trafnidiaeth (sy’n cynnwys hediadau ar awyrennau preifat) ar gyfer teithwyr sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin gymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw teithwyr sydd wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn Atodlen 3A i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (y cyfeirir atynt yn gyffredin fel y gwledydd ar y rhestr goch) yn cyrraedd porthladd yng Nghymru oni bai eu bod yn bersonau y mae rheoliad 12E(2) a (3) o’r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt (h.y. personau esempt);
creu troseddau am dorri’r gofynion hynny; a
gwneud diwygiadau canlyniadol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.