- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
7 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
11 Ionawr 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, ar yr amod y cymeradwyir y Gorchymyn cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, neu cyn 1 Mawrth 2021 (pa un bynnag sydd gynharaf)(3).
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. At ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, pennir mai 291.0 yw B.
3. Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020(4) wedi ei ddirymu.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio. Nid oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021.
Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, oni bai bod Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf i bennu, drwy Orchymyn, swm gwahanol ar gyfer eitem B. Os yw Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol, rhaid i’r swm gwahanol a bennir felly fod yn llai na’r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol. Y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol yw 294.3.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu mai swm eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021 yw 291.0.
Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2020, a oedd wedi pennu 292.6 fel swm eitem B ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021.
Yn unol â pharagraff 5(15) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, ni fydd y Gorchymyn hwn ond yn dod i rym os yw’n cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru cyn i Senedd Cymru gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021, neu cyn 1 Mawrth 2021 (pa un bynnag sydd gynharaf).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y pŵer o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, mae’r pŵer bellach wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru.
Yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae cyfeiriadau yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: