Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021
Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021.
(2)
(3)
Yn y Rheolau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
mae i “tir” yr un ystyr ag a roddir i “land” yn adran 16 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975;
Ffioedd2.
Y ffioedd am y gwasanaethau a bennir yn yr Atodlen yw’r rheini a nodir yn yr Atodlen honno ac maent yn daladwy i’r Prif Gofrestrydd Tir yn unol â rheol 3.
Y dull o dalu3.
(1)
Mae’r ffioedd yn daladwy wrth ddarparu’r cais neu’r gofyniad, neu wrth gyflwyno’r dystysgrif ddiffiniol, fel sy’n briodol.
(2)
Rhaid i’r ffioedd gael eu talu drwy gerdyn credyd neu gerdyn debyd ac eithrio pan fo’r Prif Gofrestrydd Tir yn caniatáu fel arall neu pan fo paragraff (3) neu (4) yn gymwys.
(3)
Pan fo cytundeb rhwng y ceisydd neu’r person sy’n gofyn am y gwasanaeth a’r Prif Gofrestrydd Tir, caniateir talu ffi drwy ddebyd uniongyrchol i unrhyw gyfrif banc Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi a gyfarwyddir gan y Prif Gofrestrydd Tir o bryd i’w gilydd.
(4)
Pan fo cais neu ofyniad yn cael ei wneud, neu dystysgrif ddiffiniol yn cael ei chyflwyno, heblaw drwy ddefnyddio dull electronig o gyfathrebu, caniateir talu’r ffi drwy siec neu archeb bost, wedi ei chroesi a’i gwneud yn daladwy i Gofrestrfa Tir Ei Mawrhydi.
Dirymu4.
Diwygiad canlyniadol i Reolau Pridiannau Tir Lleol 20185.
(1)
Mae Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn rheol 15 (dirymiadau)—
(a)
ar ddechrau paragraff (1) hepgorer y geiriau “Subject to paragraph (2)”; a
(b)
hepgorer paragraff (2).
YR ATODLENFfioedd
Gwasanaeth | Ffi | |
|---|---|---|
(1) | Cofrestru hysbysiad rhwystro golau o dan reol 4 o’r prif Reolau | £18 |
(2) | Amrywio cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) o’r prif Reolau | £18 |
(3) | Canslo cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(1) o’r prif Reolau | £18 |
(4) | Amrywio cofrestriad hysbysiad rhwystro golau o dan reol 7(6) o’r prif Reolau (wedi cyflwyno tystysgrif ddiffiniol) | £18 |
(5) | Chwiliad swyddogol o’r gofrestr (gan gynnwys dyroddi tystysgrif swyddogol o chwiliad) o dan adran 9(1) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 | £15; neu £0 os darperir y gofyniad o fewn 6 mis i ddarparu gofyniad cynharach gan yr un person am chwiliad swyddogol mewn cysylltiad â’r un tir, y talwyd y ffi a ragnodwyd amdano. |
Mae’r Rheolau hyn yn rhagnodi’r ffioedd sy’n daladwy i’r Prif Gofrestrydd Tir am amrywiol wasanaethau sy’n ymwneud â phridiannau tir lleol sy’n effeithio ar dir yng Nghymru. Darperir y gwasanaethau hynny o dan Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975 a Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018. Mae’r ffioedd a ragnodir yn y Rheolau hyn yn disodli’r ffioedd a bennir gan reol 14 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977 ac Atodlen 3 iddynt am wasanaethau tebyg sy’n ymwneud â phridiannau tir lleol a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r Rheolau hyn yn cael effaith yn ardal weinyddol awdurdod lleol ar neu ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir gan y Prif Gofrestrydd Tir i’r awdurdod lleol hwnnw yn unol â Rhan 4 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015.
Mae’r gwasanaethau y mae ffioedd yn daladwy amdanynt wedi eu nodi yn yr Atodlen. Mae rhesi (1) i (4) yn wasanaethau mewn cysylltiad â hysbysiadau rhwystro golau, sy’n fath penodol o bridiant tir lleol. O dan baragraff (5), mae ffi yn daladwy am chwiliad swyddogol o’r gofrestr. Ond nid yw’r ffi honno’n daladwy os ceir cais am chwiliad o’r fath o fewn 6 mis i gais cynharach gan yr un person, mewn perthynas â’r un tir, y talwyd ffi amdano.
Mae rheol 3 yn rhagnodi pa bryd y mae’r ffioedd am y gwasanaethau hyn yn daladwy a sut mae talu’r ffioedd.
Mae rheol 4 yn dirymu rheol 14 o Reolau Pridiannau Tir Lleol 1977 ac Atodlen 3 iddynt fel y maent yn gymwys i dir yng Nghymru.
O ganlyniad i reol 4, mae’r Rheolau hyn yn diwygio Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018 er mwyn sicrhau eglurder ynghylch dirymu Rheolau Pridiannau Tir Lleol 1977.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheolau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheolau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Phartneriaethau’r Gweithlu, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.