Y dull o dalu3.

(1)

Mae’r ffioedd yn daladwy wrth ddarparu’r cais neu’r gofyniad, neu wrth gyflwyno’r dystysgrif ddiffiniol, fel sy’n briodol.

(2)

Rhaid i’r ffioedd gael eu talu drwy gerdyn credyd neu gerdyn debyd ac eithrio pan fo’r Prif Gofrestrydd Tir yn caniatáu fel arall neu pan fo paragraff (3) neu (4) yn gymwys.

(3)

Pan fo cytundeb rhwng y ceisydd neu’r person sy’n gofyn am y gwasanaeth a’r Prif Gofrestrydd Tir, caniateir talu ffi drwy ddebyd uniongyrchol i unrhyw gyfrif banc Cofrestrfa Tir Ei Mawrhydi a gyfarwyddir gan y Prif Gofrestrydd Tir o bryd i’w gilydd.

(4)

Pan fo cais neu ofyniad yn cael ei wneud, neu dystysgrif ddiffiniol yn cael ei chyflwyno, heblaw drwy ddefnyddio dull electronig o gyfathrebu, caniateir talu’r ffi drwy siec neu archeb bost, wedi ei chroesi a’i gwneud yn daladwy i Gofrestrfa Tir Ei Mawrhydi.