Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheolau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 ond nid yw rheolau 2, 3, 4 a 5 ond yn cael effaith mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, ar y dyddiad y daw Rhannau 1 i 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 2015(1) i rym mewn perthynas â’r ardal honno.

(3Yn y Rheolau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “y prif Reolau” (“the principal Rules”) yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol 2018(2);

mae i “tir” yr un ystyr ag a roddir i “land” yn adran 16 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975;

ystyr “tystysgrif ddiffiniol” (“definitive certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir gan yr Uwch Dribiwnlys o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf Hawliau Golau 1959(3).