Enwi, cychwyn a dehongli1.
(1)
Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol (Ffioedd) (Cymru) 2021.
(2)
Daw’r Rheolau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 ond nid yw rheolau 2, 3, 4 a 5 ond yn cael effaith mewn perthynas ag ardal awdurdod lleol, ar y dyddiad y daw Rhannau 1 i 3 o Atodlen 5 i Ddeddf Seilwaith 20153 i rym mewn perthynas â’r ardal honno.
(3)
Yn y Rheolau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “y prif Reolau” (“the principal Rules”) yw Rheolau Pridiannau Tir Lleol 20184;
mae i “tir” yr un ystyr ag a roddir i “land” yn adran 16 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975;
ystyr “tystysgrif ddiffiniol” (“definitive certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir gan yr Uwch Dribiwnlys o dan adran 2(3)(a) o Ddeddf Hawliau Golau 19595.