NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan:

(a)

paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) (“Rheoliadau 2011”); a

(b)

paragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn sicrhau cysondeb ag Erthygl 56A o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, fel y’i mewnosodwyd at y dibenion a grybwyllir ym mharagraff 3 o Atodiad 6, ac fel y’i diwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/1443).

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn galluogi pwerau gorfodi i barhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol estynedig ac eithrio mewn safleoedd rheoli ar y ffin mewn cysylltiad ag anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/1 (Cy. 1)) er mwyn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir fod wedi eu rhewi’n ddwfn, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cyfnod graddoli trosiannol estynedig. Mae’r estyniad hwn tan hanner nos ar 30 Mehefin 2022. Cafodd y dyddiad hwn ei ddiwygio yn flaenorol gan Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/376 (Cy. 117)) a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/977 (Cy. 231)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.