2021 Rhif 1480 (Cy. 382)
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Bwyd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—

(a)
paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20111; a
(b)
paragraff 1(1) o Atodlen 2, a pharagraff 21 o Atodlen 7, i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20182.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, ei bod yn angenrheidiol gwneud y Rheoliadau hyn heb fod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad3.

Enwi a chychwyn1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Rhagfyr 2021.

Diwygiadau i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20112.

(1)

Mae Atodlen 5 (cymhwyso Rhan 3, ei rhanddirymu a’i haddasu, mewn perthynas â thiriogaethau sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig) i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 20114 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ym mharagraff 5 (rhanddirymu rheoliad 14: amseru hysbysiad mewnforio)—

(a)

yn is-baragraff (3)—

(i)

yn lle “O 1 Ionawr 2022” rhodder “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3A), o 1 Ionawr 2022”;

(ii)

ar ôl “cynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid” mewnosoder “neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid nad yw is-baragraff (2)(c) eisoes yn ymdrin â hwy”;

(b)

ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

“(3A)

Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i nwyddau perthnasol—

(a)

sydd o fewn cwmpas Erthygl 7 neu Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 sy’n ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau sydd wedi eu hesemptio rhag rheolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bersonau naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad5; neu

(b)

a fewnforir i Brydain Fawr o Weriniaeth Iwerddon pan fodlonir yr amod ym mharagraff (3B).

(3B)

Yr amod yw fod y nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon, ac at y dibenion hyn cymerir bod nwyddau wedi eu cynhyrchu yng Ngogledd Iwerddon neu yng Ngweriniaeth Iwerddon os ydynt wedi eu prosesu yno.”

(3)

Yn lle paragraff 8(a) (addasu rheoliad 20: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – cynhyrchion) rhodder—

“(a)

ym mharagraff (1)—

(i)

“yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;

(ii)

“neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol””.

(4)

Yn lle paragraff 9 (addasu rheoliad 23: gweithredu yn dilyn methiant gwiriadau neu yn dilyn cipio – anifeiliaid) rhodder—

“Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai, ym mharagraff (1)—

(a)

“yw gwiriadau” wedi ei roi yn lle “yw’r gwiriadau mewn safle rheoli ar y ffin”;

(b)

“neu, yn achos nwyddau perthnasol, nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodlen 5,” wedi ei fewnosod ar ôl “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol””.

Diwygiad i Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20213.

Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 20216, yn lle “31 Rhagfyr 2021” rhodder “30 Mehefin 2022”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan:

(a)

paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2379 (Cy. 252)) (“Rheoliadau 2011”); a

(b)

paragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn sicrhau cysondeb ag Erthygl 56A o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill, fel y’i mewnosodwyd at y dibenion a grybwyllir ym mharagraff 3 o Atodiad 6, ac fel y’i diwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/1443).

Mae rheoliad 2 hefyd yn diwygio Atodlen 5 i Reoliadau 2011 er mwyn galluogi pwerau gorfodi i barhau i fod ar gael yn ystod y cyfnod graddoli trosiannol estynedig ac eithrio mewn safleoedd rheoli ar y ffin mewn cysylltiad ag anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/1 (Cy. 1)) er mwyn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig a fewnforir i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir fod wedi eu rhewi’n ddwfn, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’r cyfnod graddoli trosiannol estynedig. Mae’r estyniad hwn tan hanner nos ar 30 Mehefin 2022. Cafodd y dyddiad hwn ei ddiwygio yn flaenorol gan Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/376 (Cy. 117)) a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) (Rhif 2) 2021 (O.S. 2021/977 (Cy. 231)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.