xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 10Darpariaethau sy’n ymwneud ag Ymgymerwyr Statudol etc

Cyfarpar ymgymerwyr statudol etc mewn strydoedd wedi’u cau

2.—(1Pan fo stryd wedi’i chau o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) bydd gan unrhyw gyfleustod statudol y mae ei gyfarpar o dan y stryd, yn y stryd, ar y stryd, ar hyd y stryd neu ar draws y stryd yr un pwerau a hawliau mewn perthynas â’r cyfarpar hwnnw, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, fel pe na bai’r Gorchymyn hwn wedi cael ei wneud.

(2Pan fo stryd wedi’i chau o dan erthygl 8 (cau strydoedd dros dro) caiff unrhyw gyfleustod statudol y mae ei gyfarpar o dan y stryd, yn y stryd, ar y stryd, dros y stryd, ar hyd y stryd neu ar draws y stryd, ac os gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan ymgymerwr rhaid iddo—

(a)dynnu ymaith y cyfarpar a’i osod neu osod cyfarpar arall a ddarparwyd yn ei le yn y cyfryw leoliad arall ag a bennir yn rhesymol gan y cyfleustod ac y mae ganddo’r pŵer i’w osod; neu

(b)ddarparu cyfarpar arall yn lle’r cyfarpar presennol a’i osod yn y cyfryw leoliad arall ag a nodwyd uchod.

(3Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r paragraff hwn, rhaid i’r ymgymerwr dalu i unrhyw gyfleustod statudol swm sy’n hafal i’r gost y mae’r cyfleustod yn rhesymol yn mynd iddi wrth—

(a)gwblhau’r gweithfeydd adleoli sy’n ofynnol i gau’r stryd neu mewn cysylltiad â hynny; a

(b)gwneud unrhyw waith neu beth arall sy’n angenrheidiol o ganlyniad i gwblhau’r gweithfeydd adleoli neu mewn cysylltiad â hynny.

(4Os, wrth gwblhau gweithfeydd adleoli o dan baragraff (2)—

(a)gosodir cyfarpar o fath gwell, o gapasiti ychwanegol neu o ddimensiynau mwy yn lle’r cyfarpar presennol; neu

(b)gosodir cyfarpar (y cyfarpar presennol neu gyfarpar a osodwyd yn lle’r cyfarpar presennol) ar ddyfnder sy’n ddyfnach na’r cyfarpar presennol,

ac nad yw’r ymgymerwr yn cytuno i osod cyfarpar o’r math hwnnw neu’r capasiti hwnnw neu o’r dimensiynau hynny nac i osod cyfarpar ar y dyfnder hwnnw, yn ôl y digwydd, neu yn niffyg cytundeb, penderfynir drwy gymrodeddu nad yw’n angenrheidiol, yna os oes cost ynghlwm wrth gwblhau’r gweithfeydd adleoli sy’n fwy na’r hyn a fyddai wedi bod ynghlwm pe bai’r cyfarpar a osodwyd yn gyfarpar o’r math, y capasiti neu’r dimensiynau presennol neu ar y dyfnder presennol, yn ôl y digwydd, bydd y swm a fyddai ar wahân i’r paragraff hwn yn daladwy i’r cyfleustod statudol yn rhinwedd is-baragraff (3) yn cael ei leihau o’r gorswm hwnnw.

(5At ddibenion paragraff (4)—

(a)ni thrinnir estyn cyfarpar i hyd sy’n fwy na hyd y cyfarpar presennol fel pe bai’n gosod cyfarpar o ddimensiynau mwy na rhai’r cyfarpar presennol; a

(b)phan gytunir ar ddarparu uniad mewn cebl, neu pan benderfynir bod uniad yn angenrheidiol, bydd darparu siambr uno neu dwll archwilio o ganlyniad i hynny yn cael ei drin fel pe bai cytundeb hefyd yn ei gylch fel pe bai wedi cael ei benderfynu felly.

(6Bydd swm a fyddai ar wahân i’r is-baragraff hwn yn daladwy i gyfleustod statudol mewn cysylltiad â gweithfeydd yn rhinwedd paragraff (3) (ar ôl rhoi sylw i baragraff (4) lle y bo’n berthnasol), os yw’r gweithfeydd yn cynnwys gosod cyfarpar a ddarparwyd yn lle’r cyfarpar a osodwyd fwy na 7 mlynedd a 6 mis yn gynharach er mwyn rhoi unrhyw fuddiant ariannol i’r cyfleustod sy’n codi drwy ohirio amser adnewyddu’r cyfarpar fel arfer, yn cael ei leihau o swm y buddiant hwnnw.

(7Nid yw paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan fo’r gweithfeydd awdurdodedig yn gyfystyr â gweithfeydd trafnidiaeth mawr at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf 1991, ond yn lle hynny—

(a)penderfynir ar y costau a ganiateir am y gweithfeydd adleoli yn unol ag adran 85 o’r Ddeddf honno (rhannu cost mesurau angenrheidiol) ac unrhyw reoliadau sydd yn cael effaith am y tro o dan yr adran honno; a

(b)bydd y costau a ganiateir yn cael eu dwyn gan yr ymgymerwr a’r cyfleustod statudol yn y cyfryw gyfrannau ag a ragnodir gan unrhyw gyfryw reoliadau.

(8Yn y paragraff hwn—

mae i “cyfarpar” yr un ystyr ag “apparatus” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991;

ystyr “gweithfeydd adleoli” yw gwaith a weithredir, neu gyfarpar a ddarperir o dan is-baragraff (2); ac

ystyr “cyfleustod statudol” yw ymgymerwr statudol at ddibenion Deddf Priffyrdd 1980 neu ddarparwr cyfathrebu cyhoeddus fel y’i diffiniwyd ym mharagraff 1(6)(1).

(1)

2003 p. 21. (Mae diwygiadau i adran 151(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn).