RHAN 2Darpariaethau ynghylch Gweithfeydd
StrydoeddCymhwyso Deddf 1991
Pŵer i wneud gweithfeydd stryd7.
(1)
Caiff yr ymgymerwr, at ddibenion adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r gweithfeydd awdurdodedig, fynd ar gymaint o unrhyw un o’r strydoedd a bennir yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn ag sydd o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir a chaiff—
(a)
torri neu agor y stryd, neu unrhyw garthffos, draen neu dwnnel oddi tani,
(b)
twnelu neu durio o dan y stryd;
(c)
gosod cyfarpar yn y stryd;
(d)
cynnal a chadw cyfarpar yn y stryd neu newid ei leoliad; a
(e)
gwneud unrhyw weithfeydd sy’n ofynnol ar gyfer unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a)-(d) neu sy’n gysylltiedig â hwy.
(2)
Mae’r awdurdod a roddir gan baragraff (1) yn hawl statudol at ddibenion adrannau 48(3) (strydoedd, gweithfeydd stryd ac ymgymerwyr) a 51(1) (gwahardd gweithfeydd stryd anawdurdodedig) o Ddeddf 1991.
(3)
Mae adrannau 54 i 106 o Ddeddf 1991 yn gymwys i unrhyw weithfeydd stryd a gyflawnir o dan baragraff (1).
(4)
Mae’r erthygl hon yn ddarostyngedig i baragraff 2 o Atodlen 10 (darpariaethau sy’n ymwneud ag ymgymerwyr statudol etc) i’r Gorchymyn hwn.
(5)
Yn yr erthygl hon mae i “cyfarpar” yr yn ystyr â “apparatus” yn Rhan 3 o Ddeddf 1991.