RHAN 4Amrywiol a Chyffredinol

Ardystio planiau etc46.

Rhaid i’r ymgymerwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r Gorchymyn hwn gael ei wneud, gyflwyno copïau o’r datganiad amgylcheddol, y cyfeirlyfr, planiau’r gweithfeydd alltraeth, planiau’r tir, y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol, y trawsluniau a phlan yr ardal gyfyngedig i Weinidogion Cymru i ardystio eu bod, yn y drefn honno, yn gopïau cywir o’r datganiad amgylcheddol, y cyfeirlyfr, planiau’r gweithfeydd alltraeth, planiau’r tir, y strategaeth gwella bioamrywiaeth forol amlinellol, y trawsluniau a phlan yr ardal gyfyngedig y cyfeirir atynt yn y Gorchymyn hwn; ac mae dogfen a ardystir felly yn dderbyniadwy mewn unrhyw achos cyfreithiol fel tystiolaeth o gynnwys y ddogfen y mae’n gopi ohoni.