RHAN 4Amrywiol a Chyffredinol

Parthau diogelwch ar gyfer mordwyo, treillrwydo ac angori43.

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu unrhyw weithfeydd llanwol gyflwyno hysbysiad neu hysbysiadau sy’n datgan bod yr ardaloedd a ddisgrifir yn yr hysbysiad yn barthau diogelwch.

(2)

Bydd unrhyw geisiadau a wneir gan yr ymgymerwr am barth diogelwch yn cynnwys asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru.

(3)

Bydd adrannau 95 i 98 o Ddeddf 2004 a Rheoliadau 2007 yn gymwys i gais o dan baragraffau (2) a’r datganiad a gweithrediad parthau diogelwch o dan baragraff (1).

(4)

Yn yr erthygl hon, mae i “parthau diogelwch” yr un ystyr â “safety zones” ym Mhennod 2 o Ddeddf 2004.