RHAN 4Amrywiol a Chyffredinol
Cymhwyso cyfraith landlord a thenant41.
(1)
Mae’r erthygl hon yn gymwys i—
(a)
unrhyw gytundeb ar gyfer prydlesu’r gweithfeydd awdurdodedig cyfan neu unrhyw ran ohonynt neu’r hawl i’w gweithredu i unrhyw berson; a
(b)
unrhyw gytundeb y mae’r ymgymerwr yn ymrwymo iddo ag unrhyw berson ar gyfer adeiladu, cynnal a chadw, gweithredu, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig, neu unrhyw ran ohonynt;
i’r graddau y mae unrhyw gyfryw gytundeb yn ymwneud â’r telerau y mae unrhyw dir sy’n destun prydles a roddir gan neu o dan y cytundeb hwnnw i’w ddarparu at ddefnydd y person hwnnw.
(2)
Nid oes unrhyw ddeddfiad na rheol gyfreithiol sy’n rheoleiddio hawliau a rhwymedigaethau landlordiaid a thenantiaid yn lleihau effaith gweithrediad unrhyw gytundeb y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo.
(3)
Yn unol â hynny, nid oes unrhyw gyfryw ddeddfiad na rheol gyfreithiol yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau’r partïon mewn unrhyw brydles a roddir gan neu o dan unrhyw gyfryw gytundeb er mwyn—
(a)
eithrio unrhyw un o hawliau a rhwymedigaethau’r partïon hynny o dan delerau’r brydles na’u haddasu mewn unrhyw ffordd, boed hynny mewn cysylltiad â therfynu’r denantiaeth neu unrhyw fater arall;
(b)
rhoi neu osod unrhyw gyfryw hawl neu rwymedigaeth i unrhyw gyfryw barti sy’n codi o unrhyw beth sy’n cael ei wneud neu ei hepgor ar neu mewn perthynas â thir sy’n ddarostyngedig i’r brydles neu mewn cysylltiad â hynny, yn ychwanegol at unrhyw gyfryw hawl neu rwymedigaeth y darperir ar ei chyfer gan delerau’r brydles; neu
(c)
cyfyngu ar orfodi (boed hynny drwy achos cyfreithiol am iawndal neu fel arall) gan unrhyw barti yn y brydles unrhyw rwymedigaeth gan unrhyw barti arall o dan y brydles.