RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Atodol

Terfyn amser ar gyfer arfer pwerau caffael36.

(1)

Ar ôl diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym—

(a)

ni ellir cyflwyno unrhyw hysbysiad i drafod telerau o dan Ran 1 o Ddeddf 1965 fel y’i cymhwysir at gaffael tir gan erthygl 24 (cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965); a

(b)

ni ellir gweithredu unrhyw ddatganiad o dan adran 4 o Ddeddf 1981 fel y’i cymhwysir gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981).

(2)

Mae’r pwerau a roddir gan erthygl 28 (defnyddio tir dros dro ar gyfer adeiladu gweithfeydd) yn peidio ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1), ac eithrio nad oes dim yn y paragraff hwn yn atal yr ymgymerwr rhag parhau i feddiannu tir ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, os aethpwyd ar y tir a’i feddiannu cyn diwedd y cyfnod hwnnw.