RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir
Atodol
Hawliau preifat dros dir35.
(1)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl tramwy breifat dros dir sy’n cael ei gaffael yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn—
(a)
o’r dyddiad y mae’r ymgymerwr yn caffael y tir, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb; neu
(b)
pa un bynnag sydd gynharaf.
(2)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, diddymir pob hawl breifat dros dir sy’n ddarostyngedig i gaffael hawliau’n orfodol neu osod cyfamodau cyfyngol o dan y Gorchymyn hwn i’r graddau y byddai parhad y cyfryw hawliau preifat yn anghyson ag arfer hawl neu fyrdwn y cyfamod cyfyngol—
(a)
o’r dyddiad y caffaelir hawl neu fuddiant y cyfamod cyfyngol sy’n cael ei osod o blaid yr ymgymerwr, boed hynny’n orfodol neu drwy gytundeb;
(b)
ar y dyddiad y mae’r ymgymerwr yn mynd ar y tir o dan adran 11(1) o Ddeddf 1965; neu
(c)
ar adeg cychwyn unrhyw weithgarwch a awdurdodir gan y Gorchymyn sy’n ymyrryd â’r hawliau hynny sy’n eu torri,
pa un bynnag sydd gynharaf.
(3)
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r erthygl hon, mae pob hawl breifat dros dir y mae’r ymgymerwr yn ei feddiannu dros dro o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei hatal a byddant yn anorfodadwy cyhyd ag y bo’r ymgymerwr yn parhau i feddiannu’r tir yn gyfreithlon.
(4)
Mae gan unrhyw berson sy’n dioddef colled oherwydd diddymu neu atal unrhyw hawl breifat neu oherwydd gosod unrhyw gyfamod cyfyngol o dan yr erthygl hon yr hawl i gael digollediad, i’w benderfynu, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 (penderfynu ar gwestiynau sy’n ymwneud â digolledu y mae anghydfod yn ei gylch) o Ddeddf 1961.
(5)
(6)
Mae paragraffau (1) i (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i—
(a)
unrhyw hysbysiad a roddir gan yr ymgymerwr cyn—
(i)
cwblhau caffael y tir neu gaffael yr hawliau neu osod cyfamodau cyfyngol dros y tir neu sy’n effeithio ar y tir;
(ii)
i’r ymgymerwr ei feddiannu;
(iii)
i’r ymgymerwr fynd arno; neu
(iv)
i’r ymgymerwr ei feddiannu dros dro,
nad oes unrhyw un na phob un o’r paragraffau hynny yn gymwys i unrhyw hawl tramwy a bennir yn yr hysbysiad; nac
(b)
unrhyw gytundeb a wneir ar unrhyw adeg rhwng yr ymgymerwr a’r person y mae’r hawl tramwy dan sylw wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo.
(7)
Os yw’r cyfryw gytundeb ag y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b)—
(a)
yn cael ei wneud â pherson y mae’r hawl tramwy wedi’i breinio ynddo neu’n perthyn iddo; ac
(b)
yn cael ei fynegi i gael effaith hefyd er budd y rhai sy’n deillio teitl gan neu o dan y person hwnnw.
mae’n effeithiol mewn cysylltiad â’r personau sy’n deillio teitl felly, p’un a oedd y teitl yn deillio cyn neu ar ôl gwneud y cytundeb.
(8)
Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawliau preifat dros dir yn cynnwys unrhyw hawl tramwy, ymddiriedolaeth, nodwedd, hawddfraint, rhyddid, braint, hawl neu fantais a atodir i dir ac sy’n effeithio’n andwyol ar dir arall, gan gynnwys unrhyw hawl naturiol i gymorth; ac yn cynnwys cyfyngiadau ynghylch y defnydd o dir sy’n codi yn rhinwedd contract, cytundeb neu ymgymeriad sy’n cael yr effaith honno.