RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Digolledu

Gwrthgyfrif ar gyfer ychwanegiad yng ngwerth tir a gadwyd33.

(1)

Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn cysylltiad â chaffael unrhyw dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth y tir a gaffaelwyd felly unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd a fydd yn cronni i’r person hwnnw drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2)

Wrth asesu’r digollediad sy’n daladwy i unrhyw berson mewn perthynas â chaffael unrhyw hawliau newydd dros dir (gan gynnwys yr is-bridd) oddi wrth y person hwnnw o dan erthygl 23 (pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol), rhaid i’r tribiwnlys wrthgyfrif yn erbyn gwerth yr hawliau a gaffaelwyd felly—

(a)

unrhyw gynnydd yng ngwerth y tir y mae’r hawliau newydd drosto’n ofynnol; a

(b)

unrhyw gynnydd yng ngwerth unrhyw dir cyffiniol neu gyfagos sy’n eiddo i’r person hwnnw yn yr un rhinwedd,

a fydd yn cronni iddo drwy adeiladu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(3)

Mae Deddf 1961 yn cael effaith, yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2), fel pe bai’r Gorchymyn hwn yn ddeddfiad lleol at ddibenion y Ddeddf honno.