RHAN 2Darpariaethau ynghylch Gweithfeydd

Prif bwerau

Pŵer i adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu gweithfeydd3.

(1)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig.

(2)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr adeiladu, cynnal a chadw a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol neu unrhyw rannau ohonynt o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr.

(3)

Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn caiff yr ymgymerwr ailbweru Gwaith Rhif 1 neu unrhyw rannau ohono o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y môr.

(4)

Wrth adeiladu, cynnal a chadw, ailbweru a datgomisiynu’r gweithfeydd llanwol, rhaid i’r dogfennau yng ngholofn 1 o Ran 4 o Atodlen 1 gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru a’u cymeradwyo’n ysgrifenedig ganddynt cyn bod y gweithgarwch yng ngholofn 2 yn digwydd a bydd yn rhaid i’r cyfryw ddogfennau fod yn unol ag unrhyw amodau sy’n ymwneud â’u cynnwys a osodir ar unrhyw drwydded forol ar gyfer y gweithfeydd llanwol perthnasol ac ni fyddant yn awdurdodi unrhyw weithfeydd y tu allan i baramedrau’r prosiect.

(5)

Ni fydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo unrhyw brotocol ar ddefnyddio dyfeisiau yn unol â pharagraff (4) mewn perthynas ag adeiladu neu ailbweru dyfeisiau llanwol sy’n codi o’r arwyneb a hybiau gweithredol yn ardal yr araeau heb ymgynghori â Chyngor Sir Ynys Môn yn gyntaf ac ni fydd yn cymeradwyo unrhyw brotocol ar ddefnyddio dyfeisiau, cynllun rheoli ceblau, rhaglen ddatgomisiynu nac asesiad risg mordwyol wedi’i ddiweddaru yn unol â pharagraff (4) heb ymgynghori â Trinity House ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn gyntaf, ac ym mhob achos bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i ymatebion yr ymgyngoreion hynny.

(6)

Rhaid i’r gweithfeydd llanwol ac unrhyw rannau ohonynt gael eu hadeiladu, eu cynnal a’u cadw, eu hailbweru a’u datgomisiynu (fel y bo’n briodol) yn unol â’r dogfennau a gymeradwyir yn unol â pharagraff (4) uchod ac eithrio y gellir diwygio’r cyfryw ddogfennau o bryd i’w gilydd gyda chytundeb Gweinidogion Cymru.

(7)

At ddibenion paragraffau (4) a (6) uchod, bernir y bydd unrhyw gymeradwyaeth o ddogfen gyfatebol yn unol ag un o amodau trwydded forol a roddir ar gyfer y gweithfeydd llanwol neu ddiwygiad y cytunwyd arno i’r cyfryw ddogfen yn gymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

(8)

Ni chaiff unrhyw weithfeydd llanwol gychwyn nes bod rhaglen ddatgomisiynu ysgrifenedig yn unol ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir i’r ymgymerwr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 105(2) o Ddeddf 2004 wedi’i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol i’w gymeradwyo.