RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Pwerau caffael

Pŵer i Gaffael Is-bridd yn Unig26

1

Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol gymaint o is-bridd y tir y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b) o erthygl 22 (pŵer i gaffael tir), neu’r cyfryw hawliau ynddo, ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno yn lle caffael y tir cyfan.

2

Pan fo’r ymgymerwr yn caffael unrhyw ran o is-bridd tir o dan baragraff (1) neu hawliau ynddi, ni fydd yn ofynnol caffael buddiant mewn unrhyw ran arall o’r tir.

3

Nid yw’r canlynol yn gymwys mewn cysylltiad ag arfer y pŵer o dan baragraff (1) mewn perthynas ag is-bridd neu ofod awyr yn unig—

a

Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 24 (Cymhwyso Rhan 1 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965));

b

Atodlen A1 (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn datganiad breinio cyffredinol) i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan erthygl 25 (Cymhwyso Deddf 1981)); ac

c

adran 153(4A) (tir o dan falltod: bwriad i gaffael buddiant rhannol; prawf niwed sylweddol) Deddf 1990.

4

Diystyrir paragraffau (2) a (3) pan fo’r ymgymerwr yn caffael daeargell seler, arch neu adeiledd arall sy’n rhan o dŷ, adeilad neu ffatri.

5

Mae Atodlen 8 yn cynnwys darpariaeth sydd mewn achosion penodol yn cyfyngu’r pŵer o dan erthygl 22 i is-bridd neu danwyneb y tir sydd dros 9 metr o dan yr wyneb.