RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir
Pwerau caffael
Pŵer i gaffael hawliau newydd a gosod cyfamodau cyfyngol23.
(1)
Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol y cyfryw hawddfreintiau neu hawliau eraill dros dir y cyfeirir ato yn erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) ag sy’n ofynnol at unrhyw ddiben y gellir caffael y tir hwnnw ar ei gyfer o dan y ddarpariaeth honno, drwy eu creu yn ogystal â thrwy gaffael hawddfreintiau neu hawliau eraill sydd eisoes yn bodoli.
(2)
Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 6 (tir na ellir ond caffael hawliau newydd ynddo) mae pwerau caffael gorfodol yr ymgymerwr wedi’i gyfyngu i gaffael y cyfryw hawliau newydd ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r tabl hwnnw.
(3)
Yn achos y tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o’r tabl yn Rhan 2 (tir y gellir gosod cyfamodau cyfyngol drosto) o Atodlen 6 mae pŵer yr ymgymerwr o dan erthygl 22 (pŵer i gaffael tir) hefyd yn cynnwys pŵer i osod cyfamodau cyfyngol dros y tir at y dibenion a bennir mewn perthynas â’r tir yng ngholofn (3) o’r tabl.
(4)
Yn ddarostyngedig i—
(a)
Atodlen 2A (gwrth-hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol prynu tir nad yw mewn hysbysiad i drafod telerau) i Ddeddf 1965 (fel y’i hamnewidiwyd gan baragraff 5(7) o Atodlen 7 (addasu deddfiadau digolledu a phrynu gorfodol er mwyn creu hawliau newydd)); a
(b)
Atodlen A1 i Ddeddf 1981 (fel y’i haddaswyd gan baragraff 7(7) o Atodlen 7),
pan fo’r ymgymerwr yn caffael hawl dros dir neu’n gosod cyfamod cyfyngol o dan baragraff (1), (2) neu (3), nid yw’n ofynnol i’r ymgymerwr gaffael mwy o fuddiant yn y tir hwnnw.
(5)
Mae Atodlen 7 yn cael effaith at ddiben addasu’r deddfiadau sy’n ymwneud â digolledu, a darpariaethau Deddf 1965 a Deddf 1981 wrth eu cymhwyso mewn perthynas â chaffael yn orfodol o dan yr erthygl hon hawl dros dir drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol.