RHAN 3Caffael a Meddiannu Tir

Pwerau caffael

Pŵer i gaffael tir22.

Caiff yr ymgymerwr gaffael yn orfodol—

(a)

cymaint o’r tir a ddangosir ar blan y tir o fewn terfynau’r gwyro fel tir i’w gaffael yn orfodol ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr ag sy’n ofynnol at ddibenion y gweithfeydd awdurdodedig; a

(b)

cymaint o’r tir a bennir yng ngholofnau (1) a (2) o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn (sef tir a ddangosir ar blan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr) ag sy’n ofynnol at y diben a bennir mewn perthynas â’r tir hwnnw yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno.

a chaiff ddefnyddio unrhyw dir a gaffaelir felly at y dibenion hynny neu at unrhyw ddibenion eraill sy’n ategol i’r gweithfeydd awdurdodedig a’u gweithrediad.