RHAN 2Darpariaethau ynghylch Gweithfeydd
Pwerau atodol
Pŵer i arolygu ac ymchwilio i dir14.
(1)
Caiff yr ymgymerwr at ddibenion y Gorchymyn hwn—
(a)
arolygu unrhyw dir a ddangosir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir neu y gall y gweithfeydd awdurdodedig effeithio arno neu ymchwilio iddo;
(b)
heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (a), gwneud tyllau treialu yn y cyfryw leoliadau ag y gwêl yr ymgymerwr yn dda ar y tir er mwyn ymchwilio i natur haen yr arwyneb a’r is-bridd a thynnu samplau o bridd;
(c)
heb ragfarnu cyffredinolrwydd paragraff (a), cynnal ymchwiliadau ecolegol neu archaeolegol ar y cyfryw dir;
(d)
gosod cyfarpar i’w ddefnyddio mewn cysylltiad ag arolygu ac ymchwilio i’r tir a gwneud tyllau treialu ar y tir, ei adael ar y tir neu ei dynnu ymaith; ac
(e)
mynd ar y tir at ddiben arfer y pwerau a roddir gan is-baragraffau (a) i (d).
(2)
Ni chaniateir mynd ar dir na gosod cyfarpar arno, ei adael arno na’i dynnu ymaith o dan baragraff (1), oni hysbysir pob perchennog ar y tir a phob meddiannydd o leiaf 7 diwrnod ymlaen llaw a bod y cyfryw hysbysiad yn cynnwys hysbysu’r derbynnydd am ei hawl i gael ei ddigolledu o dan baragraff (13).
(3)
Os yw’r ymgymerwr yn bwriadu gwneud unrhyw un o’r canlynol, rhaid i’r hysbysiad gynnwys manylion am yr hyn a fwriedir—
(a)
chwilio, turio neu gloddio;
(b)
gadael cyfarpar ar dir;
(c)
cymryd samplau;
(d)
arolwg o’r awyr; ac
(e)
cyflawni unrhyw weithgareddau eraill a all fod yn ofynnol er mwyn hwyluso cydymffurfiaeth â’r offerynnau a grybwyllir ym mharagraff (4).
(4)
Yr offerynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(e) yw—
(a)
(b)
(5)
Mewn perthyn ag unrhyw berson sy’n mynd ar dir o dan yr erthygl hon ar ran yr ymgymerwr—
(a)
mae’n rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, cyn neu ar ôl mynd ar y tir ddangos tystiolaeth ysgrifenedig o’i awdurdod i wneud hynny gan gynnwys unrhyw warant a roddir o dan baragraff (6); a
(b)
ni chaniateir iddo ddefnyddio grym oni bai bod ynad heddwch wedi rhoi gwariant o dan baragraff (6).
(6)
Caiff ynad heddwch roi gwarant sy’n awdurdodi person i ddefnyddio grym wrth arfer y pŵer a roddwyd gan yr erthygl hon os yw wedi’i fodloni—
(a)
bod person arall wedi atal neu’n debygol o atal arfer y pŵer hwnnw; a
(b)
ei bod yn rhesymol defnyddio grym wrth arfer y pŵer hwnnw.
(7)
Mae’r grym y gellir ei awdurdodi drwy warant wedi’i gyfyngu i’r hyn sy’n rhesymol angenrheidiol.
(8)
Rhaid i warant sy’n awdurdodi’r person i ddefnyddio grym bennu nifer yr achlysuron y gall yr ymgymerwr ddibynnu ar y warant wrth fynd ar dir, ei arolygu neu ei brisio.
(9)
Rhaid mai’r nifer a bennwyd yw’r nifer y mae’r ynad heddwch yn barnu ei fod yn briodol er mwyn cyflawni’r diben y mae’n ofynnol mynd ar dir a’i arolygu neu ei brisio ar ei gyfer.
(10)
Rhaid i unrhyw dystiolaeth mewn achos cyfreithiol i gael gwarant o dan yr erthygl hon gael ei rhoi ar lw.
(11)
Ni chaniateir gwneud unrhyw dyllau treialu o dan yr erthygl hon—
(a)
mewn cerbytffordd neu droedffordd heb gydsyniad yr awdurdod priffyrdd; neu
(b)
mewn stryd breifat heb gydsyniad yr awdurdod strydoedd,
ond ni chaniateir atal y cyfryw gydsyniad yn afresymol.
(12)
Os bydd awdurdod priffyrdd neu awdurdod strydoedd y cyflwynir cais am gydsyniad iddo yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am ei benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael y cais am gydsyniad–
(a)
o dan baragraff (11)(a) yn achos awdurdod priffyrdd; neu
(b)
o dan baragraff (11)(b) yn achos awdurdod strydoedd;
tybir bod yr awdurdod hwnnw wedi rhoi cydsyniad.
(13)
Rhaid i’r ymgymerwr ddigolledu perchenogion a meddianwyr y tir am unrhyw golled neu ddifrod sy’n codi drwy arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, y penderfynir ar y cyfryw ddigollediad, yn achos anghydfod, o dan Ran 1 o Ddeddf 1961.
(14)
Mae paragraffau (1) i (13) yn gymwys mewn perthynas â thir y Goron, fodd bynnag dim ond os oes person wedi cael caniatâd yr awdurdod priodol y caiff arfer y pŵer a roddir gan baragraff (1) mewn perthynas â thir y Goron.