RHAN 2Darpariaethau ynghylch Gweithfeydd

Pwerau atodol

Gollwng dŵr12.

(1)

Caiff yr ymgymerwr ddefnyddio unrhyw gwrs dŵr neu unrhyw garthffos neu ddraen gyhoeddus i ddraenio dŵr mewn cysylltiad ag adeiladu, gweithredu, cynnal a chadw neu ddatgomisiynu’r gweithfeydd awdurdodedig ac at y diben hwnnw caiff osod, tynnu a newid pibellau a chaiff, ar unrhyw dir o fewn terfynau’r Gorchymyn ar y tir, wneud agoriadau i’r cwrs dŵr, carthffos neu’r ddraen gyhoeddus a chysylltiadau ag ef/hi.

(2)

Rhaid i unrhyw anghydfod sy’n deillio o arfer y pwerau ym mharagraff (1) i gysylltu â charthffos neu ddraen gyhoeddus neu ei defnyddio gael ei benderfynu fel pe bai’n anghydfod o dan adran 106 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 199116.

(3)

Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gollwng unrhyw ddŵr i mewn i unrhyw gwrs dŵr, carthffos neu ddraen gyhoeddus oni cheir cydsyniad y person sy’n berchen arno neu arni; a chaiff y cyfryw gydsyniad ei roi yn ddarostyngedig i’r cyfryw delerau ac amodau ag y caiff yn rhesymol eu gosod, ond ni ellir ei atal yn afresymol.

(4)

Rhaid i’r ymgymerwr beidio â gwneud unrhyw agoriad i mewn i unrhyw garthffos na draen gyhoeddus ac eithrio—

(a)

yn unol â chynlluniau a gymeradwyir gan y person sy’n berchen ar y garthffos neu’r ddraen, ond ni ellir atal y cyfryw gymeradwyaeth yn afresymol; a

(b)

pan fo’r person hwnnw wedi cael cyfle i oruchwylio gwneud yr agoriad.

(5)

Rhaid i’r ymgymerwr, wrth arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon, beidio â difrodi gwely na glannau unrhyw gwrs dŵr nac ymyrryd â hwy.

(6)

Rhaid i’r ymgymerwr gymryd y cyfryw gamau ag sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod unrhyw ddŵr sy’n cael ei ollwng i mewn i gwrs dŵr neu garthffos neu ddraen gyhoeddus o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mor rhydd ag y bo’n ymarferol rhag gro, pridd neu sylwedd solet arall, olew neu sylwedd mewn toddiant.

(7)

Nid yw’r erthygl hon yn awdurdodi unrhyw weithgarwch ynglŷn â dŵr daear na gweithgarwch gollwng dŵr o fewn ystyr Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 201617 nac yn trechu’r gofyniad i gael trwydded o dan reoliad 12(1)(b) o’r un rheoliadau.

(8)

Os bydd person sy’n cael cais am gydsyniad neu gymeradwyaeth yn methu â hysbysu’r ymgymerwr am benderfyniad o fewn 56 diwrnod i gael cais am gydsyniad o dan baragraff (3) neu gymeradwyaeth o dan baragraff (4)(a) tybir bod y person hwnnw wedi rhoi ei gydsyniad neu wedi rhoi ei gymeradwyaeth, yn ôl y digwydd.

(9)

Yn yr erthygl hon—

(a)

ystyr “carthffos neu ddraen gyhoeddus” yw carthffos neu ddraen sy’n perthyn i Cyfoeth Naturiol Cymru, bwrdd draenio mewnol, awdurdod lleol, neu ymgymerwr carthffosiaeth; a

(b)

mae i ymadroddion eraill, heb gynnwys cyrsiau dŵr a ddefnyddir yn yr erthygl hon ac yn Neddf Adnoddau Dŵr 199118 yr un ystyr ag sydd yn y Ddeddf honno.