NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Cyn iddynt gael eu diwygio gan y Rheoliadau hyn, mae rheoliadau 8 a 9A o’r prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i holl gysylltiadau agos person y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron, neu a all fod yn amrywiolyn Omicron, hunanynysu am gyfnod o 10 niwrnod. Nid yw’r esemptiadau sydd fel arfer yn gymwys i gysylltiadau agos sy’n bodloni amodau penodol (er enghraifft, cysylltiadau agos sydd wedi eu brechu) yn cael effaith.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r prif Reoliadau er mwyn dileu’r gwahaniaeth rhwng cysylltiadau agos achosion y gwyddys neu yr amheuir eu bod yn Omicron, a chysylltiadau agos pob achos positif arall. Mae hyn yn golygu ni fydd rhaid i unrhyw gysylltiad agos, ni waeth pa amrywiolyn o’r coronafeirws sydd o dan sylw, hunanynysu—

Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu, pan fo person yn dod o fewn y categorïau hyn ond ei fod o dan ofyniad i ynysu, o ganlyniad i gael cysylltiad agos ag achos y gwyddys neu yr amheuir ei fod yn Omicron, yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 22 Rhagfyr 2021, fod y gofyniad i ynysu’n dod i ben ar ddechrau’r diwrnod ar y dyddiad hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.