Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 20033.
Ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—
“7.
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw sesiwn ysgol sy’n dod o fewn y flwyddyn ysgol 2021-2022 sydd wedi ei neilltuo (yn llwyr neu’n bennaf) i baratoi ysgolion a chynllunio gan athrawon oherwydd amgylchiadau sy’n ymwneud â mynychder neu drosglwyddiad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
(2)
Mae paragraff (1) i gael effaith mewn perthynas â dim mwy na phedair sesiwn ysgol yn nau ddiwrnod cyntaf ail dymor y flwyddyn ysgol honno.
(3)
Pan fo paragraff (1) yn gymwys, mae’r sesiwn honno i’w hystyried at ddibenion rheoliad 4 fel sesiwn pan gyfarfu’r ysgol.”