Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.
Cymhwyso2.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 F1ond cyn 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny.
Cyfraddau’r dreth gwarediadau tirlenwi3.
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a)
y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell,
(b)
y gyfradd is yw £3.15 y dunnell, ac
(c)
y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.
Diwygio Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 20204.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
Y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell, y gyfradd is yw £3.15 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.
Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2022 yn parhau’n ddarostyngedig i’r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1614 (Cy. 338)) o ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.