- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Dirlenwi, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
20 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
22 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
1 Ebrill 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(3) a (6), 46(4), 93 a 94(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2022.
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
3. Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a)y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell,
(b)y gyfradd is yw £3.15 y dunnell, ac
(c)y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.
4. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020(2), ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2022”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi sydd i’w chodi ar warediadau trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
Y gyfradd safonol yw £98.60 y dunnell, y gyfradd is yw £3.15 y dunnell a’r gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £147.90 y dunnell.
Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2021 neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2022 yn parhau’n ddarostyngedig i’r cyfraddau a osodir gan Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1614 (Cy. 338)) o ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan reoliad 4 o’r Rheoliadau hyn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: