Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1460 (Cy. 375)

Llywodraeth Leol, Cymru

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

Gwnaed

15 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 89(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ac adrannau 36A(1), (3) i (6) a (9) a 187(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(2), yn gwneud y Rheolau a ganlyn.

Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oeddent o’r farn eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 36A(10) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

(1)

1972 p. 70. Diwygiwyd adran 89(6) gan baragraff 1(6) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

(2)

1983 p. 2. Mewnosodwyd adran 36A gan adran 13(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Diwygiwyd adran 187(1) gan baragraff 64 o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p. 50), paragraff 124 o Atodlen 1 i Ddeddf Gweinyddu Etholiadol 2006 (p. 22) a chan baragraff 2(16) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.