2021 Rhif 1460 (Cy. 375)
Llywodraeth Leol, Cymru
Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 89(6) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 ac adrannau 36A(1), (3) i (6) a (9) a 187(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 19832, yn gwneud y Rheolau a ganlyn.

Yn unol ag adran 36A(7) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oeddent o’r farn eu bod yn briodol.

Yn unol ag adran 36A(10) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.