Enwi a chychwyn1.
Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2021.
Darpariaeth drosiannol2.
Nid yw dod â’r Rheolau hyn i rym yn effeithio ar gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pe bai’r bleidlais yn cael ei chynnal, pe ceid gornest yn yr etholiad, cyn 5 Mai 2022.
Dehongli3.
(1)
Yn y Rheolau hyn—
ystyr “bwrdeistref sirol” (“county borough”) yw bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;
ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—
(a)
yn ddydd Sadwrn;
(b)
yn ddydd Sul;
(c)
yn Noswyl Nadolig;
(d)
yn Ddydd Nadolig;
(e)
yn ddydd Gwener y Groglith;
(f)
(g)
F1yn ddiwrnod a bennir ar gyfer diolchgarwch neu alaru cyhoeddus;
mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—
- (a)
yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a
- (b)
yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;
ystyr “prif ardal” (“principal area”) yw sir neu fwrdeistref sirol;
ystyr “sir” (“county”) yw sir yng Nghymru.
(2)
At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol—
(a)
etholiad seneddol;
(b)
etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned;
(c)
(d)
(3)
“anabledd” (“disability”);
“cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);
“cofnod dienw” (“anonymous entry”);
“deiseb etholiad” (“election petition”);
“etholwr” (“elector”);
“llys etholiad” (“election court”);
“pleidleisiwr” (“voter”);
“rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);
“rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);
“rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);
“swyddog priodol” (“proper officer”).
F3system mwyafrif syml” (“simple majority system”)
system pleidlais sengl drosglwyddadwy” (“single transferable vote system”)
Adran 22(3)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000: defnyddio “Annibynnol”4.
Cynnal etholiadau i gyngor prif ardal5.
(1)
Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.
(2)
Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(3)
Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.
(4)
Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.
(5)
Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.
(6)
Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—
(a)
ar-lein, a
(b)
mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.
(7)
Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—
(a)
cael ei anfon drwy’r post,
(b)
cael ei anfon yn electronig, neu
(c)
cael ei ddanfon yn bersonol.