5.—(1) Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.
(2) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.
(3) Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.
(4) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.
(5) Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.
(6) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, yna (oni bai bod y rheol yn darparu fel arall) rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—
(a)ar-lein, a
(b)mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn eu bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.
(7) Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—
(a)cael ei anfon drwy’r post,
(b)cael ei anfon yn electronig, neu
(c)cael ei ddanfon yn bersonol.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rheol 5 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (18.7.2025) gan Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (O.S. 2025/864), ergl. 1(2), Atod. 3 parau. 22, 24 (ynghyd ag ergl. 1(4))
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rheol 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1